Mae’r bwriad i adeiladu gorsaf ynni niwclear ar safle’r Wylfa ar Ynys Môn gam yn nes yn dilyn cyhoeddiad gan gwmni Horizon heddiw.
Yn ôl papur newydd y Times mae cwmni Horizon Nuclear Power wedi dewis yr Wylfa yn hytrach na safle yn Swydd Gaerloyw oedd hefyd ar y rhestr fer.
Dywed y cwmni y bydd yn cyflwyno cais cynllunio ymhen dwy flynedd gan anelu at adeiladu gorsaf niwclear nesaf Prydain yno erbyn 2020. Mae angen cael pecyn ariannol at ei gilydd hefyd.
Roedd y safle yn un o 10 gafodd eu cymeradwyo gan Lywodraeth Prydain ym mis Tachwedd 2009.
Mae cwmni Horizon Nuclear Power yn fenter ar y cyd rhwng cwmnïau RWE ac E.on. Fe wnaethon nhw brynu’r tir ger Cemaes ym mis Mai 2008.
Bydd yr orsaf niwclear bresennol yn Wylfa, sy’n cyflogi 700 o bobol, yn parhau i gynhyrchu trydan tan fis Rhagfyr eleni.
Mae Cyngor yr Ynys yn credu y bydd y datblygiad yn dod a £8 biliwn o fuddsoddiad i’r economi leol.
“Mae yna gefnogaeth frwd. Fyddwn i’n dweud bod 90-95% o bobol Ynys Môn yn cefnogi gorsaf niwclear newydd,” meddai Trefor Lloyd-Hughes, y cynghorydd dros Maeshyfryd, wrth y Times.
“Mae’n mynd i greu gwaith tra fydd o’n cael ei adeiladu a hynny am flynyddoedd i ddod.”
Ond mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwrthwynebu adeiladu unrhyw safleoedd niwclear newydd yng Nghymru.