Bydd arbrawf gwyddonol mwyaf y byd yn cyrraedd ei uchafbwynt heddiw wrth i’r Large Hadron Collider geisio ail-greu amgylchiadau dechrau’r bydysawd.

Mae’r arbrawf, sydd dan reolaeth y Cymro o Aberdâr Dr Lys Evans eisoes wedi costio £6.7 biliwn ac wedi ei oedi ers dros flwyddyn.

Ers 11 diwrnod mae’r Large Hadron Collider wedi bod yn gyrru protonau o gwmpas twnnel 27km (16.8 milltir) o hyd o dan ddaear ar y ffin rhwng Ffrainc a’r Swistir ger Geneva.

Erbyn hyn maen nhw wedi cyrraedd cyflymder o 11,000 mil cylchrediad yr eiliad a rywbryd heddiw fe fydden nhw’n taro yn erbyn ei gilydd er mwyn ceisio ail greu amgylchiadau’r cyfnod yn syth ar ôl y Glec Fawr.

Tra bod bom niwclear yn creu lot o egni allan o ychydig o fás, bydd yr arbrawf yn gwneud y gwrthwyneb, sef creu ychydig o fás allan o lot o egni.

Bydd hynny’n rhoi cyfle i wyddonwyr astudio’r Higgs Boson – y gronyn sy’n gyfrifol am fás.

Dywedodd llefarydd ar ran CERN, y corff sy’n cynnal yr arbrawf, bod ceisio cael y protonau i daro ei gilydd fel “saethu nodwyddau dros yr Iwerydd a gobeithio y bydden nhw’n taro’i gilydd hanner ffordd.”

Mae rhai pobol yn pryderu y gall yr arbrawf beryglu’r Ddaear drwy greu tyllau du bychan, a fydd yn sugno gweddill y byd i mewn iddo.

Cafodd y peiriant ei sefydlu yn y Swistir yn 2008, ond fe ddaeth yr arbrawf i ben pan wnaeth gwahanol rannau orboethi ar ôl i ddarn o fara lanio ar y peiriant. Y gred yw mai aderyn a ollyngodd ddarn o baguette.