Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud bod angen i Gaerdydd fanteisio ar eu gêm ychwanegol yn erbyn Caerlŷr nos yfory er mwyn mynd ymhellach ar y blaen ar y clybiau sy’n eu cwrso.
Ar hyn o bryd, mae Caerdydd yn y pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth, ac fe fyddai buddugoliaeth yn erbyn tîm Nigel Pearson yn cynyddu eu mantais dros Blackpool i wyth pwynt.
Mae Caerlŷr un pwynt tu ôl i Gaerdydd ar ôl chwarae’r un nifer o gemau.
Y gêm ychwanegol
“Dyma’r gêm ychwanegol i ni a Chaerlŷr, ac mae’n gyfle,” meddai Dave Jones.
“Mae’n rhaid i ni weithio’n galed, ac os fyddwn ni’n chwarae i’n llawn botensial, fe allwn ni guro unrhyw dîm yn yr adran.”
“Mae Nigel Pearson wedi gwneud job wych gyda Chaerlŷr. Maen nhw wedi bod yn yr Uwch Gynghrair yn y gorffennol, ac rwy’n siŵr eu bod nhw isie cael y profiad yno eto,” meddai Jones.
Canmoliaeth i Burke
Mae Dave Jones yn clodfori’r asgellwr, Chris Burke, am ei berfformiadau gan ei ddisgrifio fel “rhan allweddol” o’r tîm.
Fe sgoriodd Burke y gôl i sicrhau buddugoliaeth bwysig iawn i’r Adar Gleision yn erbyn Crystal Palace dros y penwythnos.
“Mae Burkey yn rhan allweddol o’r tîm. Mae wedi bod yn sgorio goliau pwysig trwy gydol y tymor.
“Mae wedi chwarae’n gyson trwy’r tymor – mae’n un o chwaraewyr mwya’ cyson y clwb. Mae’n gweithio’n galed iawn dros y tîm.”