Mae De Corea wedi cyhuddo eu cymdogion gogleddol o suddo un o’u llongau yn bwrpasol yr wythnos ddiwethaf.
Mae 46 o’r criw ar goll gydag awdurdodau’n credu eu bod yn sownd o fewn y llong a suddodd ddydd Gwener ddiwethaf. Cafodd 58 o bobol eu hachub oddi ar y llong.
Tra nad yw achos y ffrwydrad wedi ei nodi eto, fe ddywedodd Gweinidog Amddiffyn De Corea, Kim Tae-young, y gallai Gogledd Corea fod wedi targedu’r llong gyda bom.
Hen gynnen
Ond, fe ychwanegodd y Gweinidog Amddiffyn y gallai’r ffrwydrad fod wedi digwydd oherwydd hen fom yn dyddio o gyfnod Rhyfel Corea dros hanner canrif yn ôl.
Yn swyddogol mae’r ddwy wlad yn parhau mewn rhyfel, gan fod y gwrthdaro fuodd rhyngddyn nhw yn 1950-53 wedi dod i ben gyda chadoediad, ac nid â chytundeb heddwch.