Mae nyrs o Gristion wedi cael ei symud oddi ar y ward i swyddfa, wedi iddi wrthod tynnu cadwyn â chroes arni oddi am ei gwddw. Heddiw, mae’r nyrs honno wedi bod yn rhoi tystiolaeth i dribiwnlys diwydiannol.
Mae Shirley Chaplin, 54, yn honni bod Ysbyty Ymddiriedolaeth Iechyd Frenhinol Dyfnaint ac Caerwysg, wedi gwahaniaethu yn ei herbyn hi trwy ddweud wrthi am dynnu ei chroes.
Byddai hynny, meddai, yn ei rhwystro rhag mynegi ei ffydd.
Yr ochr arall
Mae’r Ymddiriedolaeth, ar y llaw arall, yn dweud mai rheolau iechyd a diogelwch oedd y tu ôl i’w penderfyniad i ofyn i Shirley Chaplin dynnu’r groes.