Fe fydd arddangosfa am hanes y ferch ifanc ddaeth yn enwog am ei dyddiadur wrth guddio oddi wrth y Natsïaid yn dod i Abertawe.
Mae’r arddangosfa am Anne Frank wedi ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Anne Frank ac yn edrych ar ei stori o safbwynt hanesyddol a chyfoes.
Mae’r arddangosfa wedi’i rhannu’n themâu fel cenedlaetholdeb, hawliau dynol, goddefgarwch, parch, cyfrifoldeb personol a dewrder sifil.
Mae hanes Anne Frank yn cynnwys cyfnod o 1939 i 1945. Cyfnod sy’n cynnwys erlid yr Iddewon, ysgrifennu dyddiadur yn yr anecs cyfrinachol yn Amsterdam yn ogystal ag alltudiaeth a marwolaeth Anne Frank mewn gwersyll Natsïaidd.
‘Profiadau rhyfel’
Mae’r arddangosfa yn rhoi profiadau rhyfel Anne Frank o unbennaeth, hiliaeth a hunaniaeth drwy gyfnod Hitler a’r Holocost yng nghyd-destun bywydau pobl ifanc ym Mhrydain heddiw.
Meddai’r Cynghorydd Graham Thomas, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth Cyngor Abertawe: “Mae stori Anne Frank yn un o’r straeon mwyaf ysbrydoledig i gael eu hadrodd o gyfnod tywyll iawn yn hanes y byd.”
“Mae’r arddangosfa deithiol hon yn un safonol ac mae llawer o alw amdani. Yn sicr, mae’n bluen yn het Amgueddfa Abertawe ei bod yn dod yma am sawl wythnos.
“Mae dyddiadur Anne Frank addysgu pobl am erchyllterau’r Holocost yn ogystal â materion cyfredol amlwg yn y gymdeithas heddiw.”
Rhyddhau colomennod Gwyn
Bydd colomennod gwyn yn cael ei rhyddhau yn lansiad yr arddangosfa yn Abertawe fel symbol o heddwch.
Hefyd, bydd ymwelwyr ac ysgolion yn cael cyfle i ysgrifennu negeseuon heddwch i’w rhoi mewn capsiwl amser i nodi’r digwyddiad.
Fe gafodd dyddiadur Anne Frank ei gyhoeddi gyntaf yn 1947. Ers hynny, mae wedi’i gyfieithu i mewn i 70 o ieithoedd gwahanol.
Bydd arddangosfa deithiol Anne Frank yn dod i Amgueddfa Abertawe, Ffordd Victoria, 9 Ebrill – 4 Mai.