Fe ardal o’r Gogledd Orllewin yn cael datblygu dulliau teithio gwyrdd yn sgil cyhoeddi cynllun newydd heddiw.
Fe fydd ardal Môn a Menai sy’n cynnwys Bangor, Caernarfon a Porthaethwy yn dod yn ‘ardal deithio gynaliadwy’ ble fydd modd llogi beiciau’n rhad ac am ddim. Fe fydd rhagor o fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded newydd yn cael eu hadeiladu.
Bydd yr ardal yn derbyn £8 miliwn o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru dros y tair blynedd nesaf i helpu trawsnewid y ffordd mae pobl yn teithio.
Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, ei fod “wrth ei fodd.”

“Dau gam”

“Ein nod yw cyflwyno’r cynllun hwn mewn dau gam – yn gyntaf, bydd gwelliannau strwythurol er mwy caniatáu i bobl symud yn fwy effeithlon a hwylus. Wedyn bydd camau i blethu trafnidiaeth at ei gilydd mewn ffordd werdd,” meddai Ieuan Wyn Jones heddiw.
Bydd hyn yn cynnwys “datblygu cynlluniau teithio i brif gyflogwyr yr ardal, mwy o gefnogaeth i wasanaethau bws a hwb nerthol i feicio a cherdded,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Prif Arweinydd Portffolio Amgylcheddol Cyngor Gwynedd:
“Dyma fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal sy’n helpu cyflwyno system trafnidiaeth effeithiol, effeithlon a chynaliadwy sy’n gweddu orau ag anghenion pawb sy’n byw, gweithio ac ymweld ag ardal Môn a Menai.”

Y cynllun

Mae’r Cynllun yn cynnwys:
• Prosiectau isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Bangor a’r Fenai.
• Gwelliannau i wasanaethau bws.
• Cynlluniau beicio a cherdded newydd, gan gynnwys gorffen llwybr Lôn Adda.
• Prosiectau teithio sy’n cynnwys cynlluniau teithio ar gyfer prif gyflogwyr yr ardal.
• Bydd hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ailagor yr hen reilffordd rhwng Llangefni a Bangor.