Mae dau ddyn wedi pledio’n euog i geisio smyglo gwerth £1.4m o gyffur cocên i wledydd Prydain ar gwch crand.
Fe gafodd y Sbaenwyr, Tanasu De Jesus Quevedo-Ojeda, 28, ac Oliver Vidal Hernandez, 27, ill dau eu dla gan heddlu gwarchod ffiniau Prydain, yr UKBA, wrth iddyn nhw adael y cwch Watch Liner yn Southampton ddydd Sadwrn.
Yn Llys Ynadon Southampton heddiw, fe bledion nhw ill dau’n euog i gyhuddiad o fewnforio’n anghyfreithlon gyfanswm o 30kg o gocên.
Fe fydd y ddau’n ymddangos yn y llys eto ar Ebrill 29.