Fe fydd yn rhaid i rai plant gael eu sganio gan beiriannau gwrth-derfysgol meysydd awyr, yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Arglwydd Adonis. 
 
Roedd grwpiau hawliau dynol wedi codi amheuon ynglyn â’r angen i ddefnyddio’r sganwyr, sy’n cael eu rhoi mewn prif feysydd awyr ym Mhrydain ar ôl yr ymgais i fomio awyrennau uwchben yr Iwerydd adeg y Nadolig y llynedd.

Plant

Mae’r Llywodraeth wrthi’n ymgynghori ar god ymddygiad ynglyn â’r sganwyr newydd, a fydd yn gallu gweld trwy haenau o ddillad at yr esgyrn.

“Fe fyddwn ni’n mynnu fod plant sy’n cael eu dewis i gael eu sganio, yn mynd trwy’r broses,” meddai’r Arglwydd Adonis. “Fe fyddai dweud fel arall yn tanseilio holl fwriad ac effaith y sganwyr newydd.

“Mae staff meysydd awyr wedi cael eu hyfforddi a’u gwirio, ac mae hynny’n golygu ein bod ni wedi ymchwilio i’w cefndir nhw.

“Maen nhw hefyd wedi cael eu cyfarwyddo i wneud y gwaith mewn ffordd sensitif a phriodol.”