Mae’r cyn Aelod Seneddol a Chynulliad Llafur dros Wrecsam, John Marek wedi ymuno â’r Blaid Geidwadol.
Dywedodd cyn Lywydd y Cynulliad ei fod yn ymuno â’r Ceidwadwyr am mai nhw yw’r unig blaid allai sicrhau newidiadau yn dilyn 13 blynedd o reolaeth Llafur.
“Mae cydwybod gymdeithasol David Cameron yn rhan fawr o fy mhenderfyniad i ymuno gyda’r Blaid Geidwadol”, meddai John Marek.
“Mae’n deall pa anawsterau sy’n wynebu pobl gyffredin ac rwy’n credu fel Prif Weinidog, y byddai David Cameron yn llywodraethu dros bawb.”
“Credaf mai dim ond gyda llywodraeth Geidwadol y gallwn ni wella’r economi, adfer hawliau sifil, sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cwrdd â gofynion y cyhoedd a thaclo materion mawr cenedlaethol a rhyngwladol sy’n wynebu ei gwlad,” ychwanegodd John Marek.
Barn Bourne
“Mae gennyf y parch mwyaf i John ac rwy’n hapus iawn ei fod wedi ymuno gyda’r Ceidwadwyr”, meddai Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg.
“Fe fydd John yn ychwanegu cryfder a phrofiad i’r blaid. Rwy’n edrych ‘mlaen i gydweithio gydag ef dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod,” ychwanegodd Nick Bourne.
Ymateb Llafur
“Ers i John gael ei ddiarddel o’r Blaid Lafur saith blynedd yn ôl, rydym wedi bod yn gwylio ei daith wleidyddol od a throellog gyda llai o ddiddordeb, ”meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.
“Nid ydym yn siŵr a ydy’r newyddion yn dweud mwy am John neu’n dweud mwy am y Blaid Geidwadol- ond mae’r dywediad ‘yn chwilio am unrhyw harbwr diogel’ yn dod i’r meddwl,” ychwanegodd y llefarydd.