Mae sgïwr o Brydain wedi marw ar ôl cael ei sgubo gan gwymp eira ym mynyddoedd yr Alpau yn yr Eidal.

Roedd James Ryan yn sgïo yn Val di Rhemes gyda grwp o ffrindiau a thywysydd pan gafodd ei ddal mewn eirlithriad ddoe.

Bu farw’r gwr 37 oed o Huddersfield ar y ffordd i’r ysbyty, ond fe gafodd un o’i gyfeillion ei ddal yn yr eira hefyd, ond mae ef wedi goroesi.


Cadarnhad

Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Gallwn gadarnhau fod Prydeiniwr wedi marw yn Saint-Christophe, rhanbarth o Aosta yn yr Eidal, ar Fawrth 28.

“Mae aelodau’r teulu wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac maen nhw’n derbyn cymorth a chyngor ar hyn o bryd.”