Mae tad wedi’i garcharu am o leiaf ugain mlynedd heddiw, am ladd ei ferch.
Ar ôl dim ond awr o drafod, fe wnaeth rheithgor yr achos yn Llys y Goron Abertawe ddyfarnu bod Gary Fisher, 48 yn euog o lofruddiaeth ei ferch, Chanelle Sasha Jones.
Hanes
Clywodd y llys fod gan Gary Fisher, a wnaeth drywanu ei ferch i farwolaeth wrth iddi eistedd yn sedd teithiwr ei gar mis Awst y llynedd, hanes treisiol ynghyd â hanes o feddu arfau yn dyddio’n ôl i’w arddegau.
Wedi’i thrywanu, fe wnaeth Gary Fisher yrru o amgylch Gorllewin Cymru gyda chorff ei ferch 17 blwydd oed am 10 awr, hyd nes iddo gael ei stopio gan yr Heddlu.
O leiaf 20 mlynedd
Fe wnaeth y barnwr, Lloyd Jones, anfon Gary Fisher i’r carchar am oes, gyda gorchymyn i dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo cyn bod yn gymwys am barôl.
“Rydych wedi eich cael yn euog o lofruddiaeth eich merch, Sasha Jones,” meddai’r Barnwr. “Dyma’r gwastraff mwyaf gwarthus o fywyd ifanc.”