Mae Gareth Delve wedi dweud iddo ddewis arwyddo i’r Melbourne Rebels yn hytrach na
dychwelyd i Gymru at y Gleision, oherwydd ei fod yn gyfle rhy dda i’w wrthod.
Fe fydd y Cymro’n gadael Caerloyw am Awstralia ym mis Medi cyn i dymor y Super 15 gychwyn ym mis Chwefror 2011.
Mae ei benderfyniad i symud i chwarae rygbi yn hemisffêr y de yn rhoi diwedd ar ei obeithion i fod yn rhan o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.
Hapus
“Rwy’n hapus iawn i ymuno gyda’r Melbourne Rebels ar gyfer eu tymor cyntaf yn Super Rugby yn 2011,” meddai Gareth Delve.
“Mae’r cyfle i gael profi fy hun yn erbyn rhai o chwaraewyr gorau’r byd mewn cystadleuaeth rwy’n ei hedmygu, yn rhywbeth na alla’ i ei wrthod.
“Mae wedi bod yn benderfyniad anodd ei wneud,” meddai wedyn. “Roedd yr opsiwn i ymuno gyda’r Gleision yn un gwych.”
Diwedd ar yrfa Cymru
“Roedd y cyfle i fod yn rhan o’r tîm rhyngwladol hefyd yn apelio,” meddai Gareth Delve. “Ond rwy’ i wedi dewis mynd i Melbourne oherwydd falle na fydden i’n cael cyfle fel hwn byth eto.”
Mae hyfforddwr y Melbourne Rebels, Rod MacQueen wedi dweud mai Gareth Delve yw’r union fath o chwaraewr y mae ar ei dîm ei angen yn y Super 15.
“Mae’n chwaraewr da iawn ac fe fydd yn gweddu’n dda i’r tîm,” meddai.