Mae chwaraewr- reolwr Llanelli, Andy Legg, wedi gwrthod awgrymiadau bod y ras i ennill pencampwriaeth yr Uwch Gynghrair ar ben, ar ôl iddyn nhw golli i’r Seintiau Newydd brynhawn ddoe.

Fe sgoriodd Craig Jones i’r Seintiau Newydd wedi ychydig dros awr o’r chwarae i sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn erbyn Llanelli y tymor hwn.

Syms

Mae tîm Andy Cale wedi agor y bwlch ar frig y tabl i saith pwynt – ond maen nhw wedi chwarae tair gêm yn fwy na Llanelli.

Ond fe allai’r her o chwarae wyth gêm mewn pedair wythnos danseilio gobeithion Llanelli o fanteisio ar eu gemau ychwanegol.

“Mae yna lawer o bêl-droed i’w chwarae eto, ac mae gyda ni a’r Seintiau Newydd gemau anodd o’n blaenau – felly fe allai llawer ddigwydd cyn diwedd y tymor,” meddai Andy Legg.