Mae angen newidiadau “radical” ac ysgubol i’r sustem fancio er mwyn atal trethdalwyr rhag gorfod talu’r bil yn y dyfodol, meddai Aelodau Seneddol heddiw.

Mae Pwyllgor Dethol y Trysorlys hefyd wedi cwestiynu rhoi’r hawl i fanciau mawr ledaenu risg, ac a fyddai sefydlu mwy o fanciau arbenigol yn well ar gyfer yr economi.

“Yn ystod yr argyfwng ariannol, mae llywodraethau wedi sefyll y tu ôl i systemau bancio,” meddai John McFall, Cadeirydd y pwyllgor.

“Os ydan ni am gredu mewn bancio rhyngwladol, mae’n rhaid i unrhyw ddiwygiadau sicrhau bod y trethdalwr yn cael eu gwarchod rhag talu’r bil.”

Ffordd newydd

Meddai llefarydd ar ran y Trysorlys:

“Fedr y banciau ddim mynd yn ôl i’w hen ffyrdd. Dyna pam fod y DU yn parhau i arwain y ffordd ryngwladol ar ddiwygio’r sector bancio.

“Mae’r Llywodraeth wedi cymryd camau i gefnogi’r sector bancio ac, o ganlyniad, mae banciau wedi dod allan o’r argyfwng ariannol…”