Mae British Airways heddiw’n wynebu cyhuddiad o dalu hyd at £166 yr awr i beilotiaid gyflenwi staff cabin y cwmni teithiau awyrennau, gan eu gwneud y ‘criw caban drutaf y byd’.
Yn ôl Undeb Unite, mae’r cwmni wedi mynd i “fesurau enfawr” i ddargyfeirio cannoedd o beilotiaid o’u swyddi bob dydd i weithio fel criw caban, gyda gwarant cyflog o hyd at £120,000 yn y dyfodol.
Mae’r Undeb yn tyngu cymhariaeth gyda chyflog criw caban cyffredin y cwmni o £15,000 o bunnoedd y flwyddyn neu £16 yr awr, ar ôl pum mlynedd o brofiad.
Methu â dod i gytundeb
Fe ddywedodd Len McLuskey, ysgrifennydd cynorthwyydd cyffredinol, Unite:
“Ymhell o dorri costau’r criw caban, mae BA yn awr yn defnyddio’r criw caban drutaf yn y byd, wrth drio torri’n ôl ar weithlu arferol y cwmni,” meddai Len McLuskey, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Unite.
“Mae rhannu eich gweithlu fel hyn yn wallgof… Gorau po gyntaf i ni setlo’r anghydfod.”
Pythefnos o fwlch
Fe fydd gan gwmni British Airways bythefnos o fwlch cyn streiciau nesaf eu gweithwyr caban.
Mae’r frwydr bropaganda rhwng y ddwy ochr bellach yn troi o amgylch llwyddiant neu fethiant y streic bedwar diwrnod, yr ail mewn cyfres.
Yn ôl BA, mae digon o weithwyr wedi torri’r streic iddyn nhw allu cynnal eu rhaglen hedfan. Yn ôl yr undeb, maen nhw’n dweud celwydd ac mae teithwyr yn cael eu gadael heb awyrennau ym maes awyr Heathrow.