Mae o leiaf 35 o bobol wedi’u lladd, a mwy na 25 wedi’u hanafu, mewn ymosodiadau terfysgol ym mhrifddinas Rwsia, Mosgow.

Fe chwythodd ddwy hunanfomwraig eu hunain i fyny ar drenau tanddaearol yn ystod oriau brig bore heddiw, yn ôl adroddiadau.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Argyfwng, Veronika Smolskaya, fod 22 o bobol wedi’u lladd yn y digwyddiad cyntaf, yng ngorsaf Lubyanka yng nghanol Mosgow.

Cafwyd ail ffrwydrad yng ngorsaf Parc Kultury, tua 45 munud yn ddiweddarach. Credir bod o leiaf 12 wedi’u lladd yno.

Hanes

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad terfysgol diwethaf ym mhrifddinas Rwsia ym mis Awst 2004, ar ôl i hunan fomiwr benywaidd chwythu’i hun i fyny mewn gorsaf drenau. Bu farw 10 o bobol yn y digwyddiad hwn.

Mae trenau tanddaearol Moscow ymhlith y prysuraf yn y byd gydag oddeutu saith miliwn o deithwyr yn defnyddio’r gwasanaeth pob dydd.

Mae’r awdurdodau’n amau nifer o grwpiau am y digwyddiad heddiw, gan gynnwys gwrthryfelwyr Chechnya a grwpiau yn ardal Gogledd y Cawcasws.