Mae un o brif ymgynghorwyr cyffuriau’r llywodraeth wedi rhoi’r gorau i’w gwaith, ychydig oriau cyn bod disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, gyhoeddi cynnig gwaharddiad arfaethedig ar y cyffur, Mephedrone.
Dr Polly Taylor yw chweched aelod y Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau i ymddiswyddo ers i’r cadeirydd, yr Athro David Nutt, gael y sac y llynedd.
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, mae Dr Polly Taylor, yr unig ymgynghorydd milfeddygol ar yr ACMD yn sôn ei bod yn ofni nad yw cyngor y panel yn cael ei drin yn annibynnol.
Fe fydd yr ymddiswyddiad yn ergyd i Alan Johnson, a fydd yn cyfarfod â’i brif ymgynghorydd cyffuriau, yr Athro Les Iversen, heddiw.
Mae’n debyg bod Alan Johnson yn derbyn ei gyngor i osod y cyffur yn nosbarth cyffuriau B.
Atal cynlluniau
Gallai ymadawiad Dr Polly Taylor atal cynlluniau i basio’r gwaharddiad drwy’r Senedd cyn dechrau’r ymgyrch etholiadol.
Mae disgwyl i’r Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD), sy’n cael ei gadeirio gan Athro Iversen, gyflwyno adroddiad llawn ar beryglon Mephedrone cyn i’r gwaharddiad ddod i rym.
Unwaith y bydd yr adroddiad yn cael ei drosglwyddo, fe fydd rhaid i’r newid yn y gyfraith gael ei gymeradwyo gan ddau dy’r Senedd a’r Cyfrin Gyngor.