Mae deuddeg o bobol ifanc yn eu harddegau wedi eu cyhuddo o lofruddio bachgen 15 mlwydd oed a gafodd ei drywanu gyda chyllell mewn gorsaf yn Llundain ddydd Iau diwethaf.

Mae saith arall wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth am y drosedd yng ngorsaf danddaearol Victoria.

Fe wnaeth Sofyen Belamouadden, o Acton, Gorllewin Llundain ei drywanu nifer o weithiau yn ei frest yn ystod cwffas y mae’r Heddlu’n credu oedd wedi’i threfnu ymlaen llaw.

Yn ôl tystion, roedd criw o bobol ifanc mewn gwisg ysgol wedi rhedeg ar ôl Sofyen Belamouadden i neuadd docynnau tanddaearol ble y cafodd ei drywanu sawl gwaith gyda chyllell.

Ffigyrau

Mae’r Heddlu wedi cyhuddo 12 o bobol ifanc o lofruddio Sofyen Belamouadden – pedwar 16 mlwydd oed ac wyth 17 blwydd oed. Fe fydd y 12 yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Gorllewin Llundain.

Mae dau berson 15 mlwydd oed, pedwar 16 mlwydd oed ac un 17 mlwydd oed wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth, meddai’r Heddlu.

Roedd Sofyen Belamouadden yn ddisgybl yn Ysgol Henry Compton, Fulham, Gorllewin Llundain.