Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion yn dilyn gwrtdrawiad traffic angeuol yn Aberddawan, ddydd Sul.
Ychydig cyn unarddeg o’r gloch nos Sul, 28 Mawrth, fe wnaeth dyn a oedd yn gyrru modur Renault Laguna aur adael y ffordd gerbydau ar ôl taro wal gardd yng ngorsaf Terrace, Dwyrain Aberddawan ym Mro Morganwg. Roedd gwraig yn cyd-deithio gydag ef yn nhu blaen y car.
Fe ddioddefodd y ddau anafiadau angeuol.
Ffordd dawel
Mae Heddlu De Cymru’n apelio ar dystion i ddod ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad.
Roedd y ffordd yn dawel yn ystod y gwrthdrawiad, meddai’r Heddlu, cyn ychwanegu eu bod yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a stopiodd i helpu.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 02920 571600.