Mae cwmni o China wedi prynu un o gwmnïau ceir enwoca’ Ewrop gyda’r bwriad o ehangu ei gallu technolegol ei hunan.

Fe fydd Zhejiang Geely’n prynu cwmni Volvo oddi ar Ford yn America, a hynny am lai na thraean y pris a dalodd Ford 11 mlynedd yn ôl.

Er hynny, roedd pennaeth ariannol Ford, Lewis Booth, yn dweud bod y fargen yn “bris teg am fusnes da” a’u bod nhwthau’n hapus ar y pris.

Fe fydd y cwmni o China’n talu $1.8 biliwn am y cwmni sydd â’i bencadlys yn Sweden lle cafodd y fargen ei chyhoeddi.

Roedd gweinidogion diwydiant a busnes China a Sweden yno i weld y cytundeb rhwng Ford a Zhejiang Geely.

Roedd Ford wedi talu $6.45 biliwn am Volvo yn 1999.

Ystyried cynhyrchu yn China

Fe addawodd Geely y bydden nhw’n cadw ffatrïoedd Volvo yn Sweden a Gwlad Belg ond fe fyddan nhw hefyd yn ystyried dechrau cynhyrchu yn China.

O’u hochr nhw, mae Ford wedi addo cynnig cymorth o ran sgiliau a thechnoleg i helpu’r Chineaid, gyda’r pryniant terfynol yn debyg o ddigwydd ddechrau’r hydref.

China bellach yw marchnad geir fwya’r byd a’r farn gyffredin yw y bydd cael cwmni sy’n enwog am safon a diogelwch yn ychwanegiad gwerthfawr at y diwydiant yno.

(Llun o wefan y cwmni)