Mae yna ddirgelwch ynglŷn â dyn ifanc a gafwyd yn diodde’ o anafiadau difrifol ar ymyl ffordd yng Nghasnewydd.

Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn cadw meddwl agored pam a sut yr oedd dyn wedi dod allan o gerbyd wrth iddo deithio ar ffordd y Southern Distributor Road yng nghanol y ddinas.

Mae’r dyn 23 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

Maen nhw’n gwneud apêl arbennig am wybodaeth am y cerbyd – Range Rover tywyll neu gerbyd cario pobol.

Mae’n debyg bod y dyn ifanc wedi prynu kebab yn union cyn mynd i mewn i’r cerbyd ger Sgwâr Maendy.

Mae’r heddlu eisiau clywed gan yrrwr y cerbyd neu rywun sy’n gwybod pwy oedd e. Roedd y car yn teithio ar y ffordd rhwng 11 ac 11.30 neithiwr.

Fe fu’r ffordd ynghau am gyfnod yn gynt heddiw ond mae wedi agor bellach.