Fe fydd dau dîm mawr Cymru yn dechrau ar wythnos eu gêm ddarbi mewn hwyliau gwahanol iawn.
Ar ôl methu â churo Ipswich gartref ddoe, mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa, wedi creosawu’r cyfle i gael wythnos gyfan i “ffreshau”.
Canmol ei amddiffynwyr yr oedd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, ar ôl iddyn nhw guro Crystal Palace o 2-1 ar ôl bod dan warchae yn Llundain am y rhan fwya’ o’r gêm.
Fe fydd y ddau dîm yn cyfarfod yn Stadiwm Caerdydd ddydd Sadwrn nesa’, gyda’r ddau ar hyn o bryd ar yr un nifer o bwyntiau – 62 – bum pwynt uwch trothwy’r gêmau ail gyfle.
Caerdydd – ffafr i’r Elyrch?
Ond fe allai Caerdydd wneud ffafr i’r ddau glwb Cymreig nos Fawrth wrth chwarae Leicester City, sy’n cystadlu gyda nhw am le yn y chwech ucha’.
Pe bai Caerdydd yn ennill gartre’ yn erbyn y tîm o Gaerlŷr, fe fydden nhw’n cryfhau eu lle eu hunain yn y pedwerydd safle ac yn cadw Abertawe yn y pumed.
Er iddyn nhw dorri record y clwb trwy beidio ag ildio gôl am yr 22fed tro mewn tymor, methu â sgorio oedd problem fawr Abertawe unwaith eto.
Roedd rheolwr Ipswich, Roy Keane, yn eu canmol am chwarae pêl-droed da ond yn cadarnhau na wnaethon nhw “achosi fawr ddim problemau o flaen y gôl”.
Llun: Maes y frwydr – Stadiwm Dinas Caerdydd (Gwifren PA)