Fe fydd gan gwmni British Airways bythefnos o fwlch cyn streiciau nesaf eu gweithwyr caban.

Wrth i’r ddwy ochr barhau i feio a beirniadu’i gilydd ar ail ddiwrnod yr ail streic gan aelodau undeb Unite, mae arweinwyr y gweithwyr wedi galw ar y cwmni i “roi’r gorau i’r gwallgofrwydd yma” a dychwelyd i’r bwrdd trafod.

Mae’r frwydr bropaganda rhwng y ddwy ochr bellach yn troi o amgylch llwyddiant neu fethiant y streic bedwar diwrnod, yr ail mewn cyfres.

Yn ôl BA, mae digon o weithwyr wedi torri’r streic iddyn nhw allu cynnal eu rhaglen hedfan; yn ôl yr undeb, maen nhw’n dweud celwydd ac mae teithwyr yn cael eu gadael heb awyrennau ym maes awyr Heathrow.

Ddoe, roedd BA’n hawlio eu bod wedi hedfan 75% o’u teithwyr a bod mwy o deithiau pell ac agos wedi bod nag ar yr un adeg yn y streic dridiau gynharach.

Yn ôl Unite, ar y llaw arall, roedd BA wedi gorfod canslo 43 o deithiau rhwng pedwar y prynhawn a hanner awr wedi wyth y nos.

Llun: Awyren yn cyrraedd Heathrow tros ben llinell biced yr undeb (Gwifren PA)