Doedd y Gyllideb ddim yn boblogaidd ond dyw hi ddim wedi cael llawer o effaith ar y polau piniwn.
O fewn pum wythnos a hanner i ddyddiad posib yr etholiad, mae’r casgliad diweddara’ o arolygon yn dangos y Ceidwadwyr ar y blaen ond heb wneud digon i gael mwyafrif clir.
Tra bod un yn dangos Llafur yn cau’r blwch o ddau bwynt, mae un arall yn dangos y Ceidwadwyr yn ei ledu o’r un faint.
Dyma fanylion y tri.
• Mae YouGov yn y Sunday Times yn awgrymu bod y bwlch wedi cau o 7 pwynt i 5. Mae’n rhoi’r Ceidwadwyr ar 37% (-1), Llafur ar 32% (+1), Democratiaid Rhyddfrydol 19%.
• Mae ICM yn y News of the World yn dweud y gwrthwyneb gyda’r bwlch yn lledu i 8. Mae’n rhoi’r Ceidwadwyr ar 39% (+1), Llafur 31% (-1), Democratiaid Rhyddfrydol 19%.
• Doedd y trydydd – BPix yn y Mail on Sunday – ddim yn dangos unrhyw newid, gyda’r Ceidwadwyr ar 37%, Llafur ar 30% a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 20%.
Roedd y polau’n gytûn ar y Gyllideb – YouGov yn dweud bod 51% yn ei erbyn ac ICM yn awgrymu, o ganlyniad iddo, bod mwy yn debyg o bleidleisio yn erbyn Llafur.
Un cysur i arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, yw ei fod yn fwy poblogaidd gyda phleidleiswyr benywaidd.
Llun: David Cameron – mwy poblogaidd gyda menywod