Mae pwyllgor o aelodau seneddol wedi galw am newid sylfaenol yn agwedd gwledydd Prydain tuag at yr Unol Daleithiau.

Er eu bod yn pwysleisio bod yna berthynas glos rhwng y ddwy wladwriaeth, mae’r Pwyllgor Materion Tramor yn Nhŷ’r Cyffredin yn dweud bod rhaid rhoi’r gorau i sôn am “y berthynas arbennig”.

Maen nhw’n dweud y bydd dylanwad Llundain ar Washington yn llawer llai nag yn y gorffennol a bod rhaid dilyn esiampl yr Arlywydd Obama o gymryd agwedd realistig, galed at y berthynas.

Yr argymhellion

Dyma rai o argymhellion y Pwyllgor:

• Fe fydd yr argyfwng ariannol yn ei gwneud hi’n fwy anodd i gynnig cymaint o gefnogaeth filwrol i’r Unol Daleithiau yn y dyfodol.

• Fe ddylai’r Arolwg Strategol ar Amddiffyn gymryd golwg realistig ar yr hyn y dylai’r Deyrnas Unedig geisio’i gyflawni yn y byd, a’r hyn y gall ei wneud.

• Does dim cwestiwn o dynnu’n ôl o Afghanistan ond mae’n fater o bryder bod rhai o uwch-swyddogion milwrol yr Unol Daleithiau’n anfodlon ar berfformiad lluoedd Prydain yno.

• Y peth pwysig yw edrych ar fuddiannau gwledydd Prydain ac fe all hynny olygu gweithio’n nes gyda gwledydd eraill, fel yr Undeb Ewropeaidd.

• Mae angen i Brydain gael mwy o reolaeth tros ddefnydd yr Unol Daleithiau o dir Prydeinig – e.e. mewn achos fel un ynys Diego Garcia a gafodd ei defnyddio i gadw carcharorion terfysgol.

“R’yn ni’n credu y dylen ni gael agwedd realistig, galed at ein perthynas gyda’r Unol Daleithiau a ddylen ni ddim bod yn sentimental am hynny,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Mike Gapes. “Rhaid i ni weithio er ein budd ein hunain.”

Llun: Y Tŷ Gwyn