Mae’n edrych yn fwy a mwy tebyg y bydd y cwmni sy’n cynnal llawer o wasanaethau trên a bws Cymru yn cael ei brynu gan fusnes tramor.
Erbyn hyn, fe ddaeth yn amlwg fod cwmnïau Deutsche Bahn o’r Almaen ac SNCF o Ffrainc yn cystadlu am y cwmni rhyngwladol, Arriva.
Mae’r ddau gwmni hefyd yn cael cefnogaeth eu llywodraethau eu hunain yn yr ymgais i brynu’r cwmni, sy’n cyflogi 42,000 o bobol ar draws Ewrop.
Ddiwedd yr wythnos, fe ddywedodd Deutsche Bahn eu bod nhw’n dal i drafod gydag Arriva, er nad oedd sicrwydd y bydden nhw’n gwneud cynnig ariannol ffurfiol amdano.
Y gred yw eu bod yn ystyried pris o 700 ceiniog am bob un o gyfrannau Arriva – rhy ychydig eto i sicrhau’r fargen.
Ffrainc yn cystadlu
Yn y cyfamser, mae’r cwmni teithio Ffrengig, SNCF, wedi atgyfodi eu diddordeb nhw ar ôl i drafodaethau fethu ynghynt eleni.
Yn ôl sylwebwyr ariannol, fe fydd hi’n ras agos rhwng y ddau gwmni Ewropeaidd, sy’n eiddo i’w llywodraethau.
Mae Gweinidogion Trafnidiaeth y ddwy wlad wedi cefnogi egwyddor y prynu, gyda disgwyl y bydd y diwydiant yn newid yn sylfaenol tros y blynyddoedd nesa’.
Y disgwyl yw y gallai Deutsche Bahn, sydd eisoes yn berchen ar gwmni sy’n cynnal gwasanaethau trên o Wrecsam i Lundain, yn gwneud cynnig ariannol am Arriva. Ond fe allai gael ei orfodi i werthu rhannau o’r busnes eto, oherwydd rheolau Ewropeaidd.
Roedd SNCF eisoes wedi ceisio meddiannu Arriva trwy gynnig uno’r cwmni gydag un o’i isfusnesau, Keolis.
Mae Arriva’n ddeniadol oherwydd ei fod yn cael llawer o’i incwm eisoes o fentrau yn Ewrop. Ond ef sy’n cynnal llawer o wasanaethau trên a bws Cymru hefyd.