Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth a thystion yn dilyn ymosodiad llosgi bwriadol mewn tŷ yn Wrecsam yn ystod oriau mân y bore ddoe.

Roedd bin wedi ei roi ar dân ac wedi’i wthio yn erbyn drws ffrynt y tŷ ym Mhonciau, Wrecsam toc cyn 5pm.

Fe wnaeth yr heddlu gael gwybod am y tân ar Stryd Awstralia gan y Gwasanaeth Tân ac Achub am 04.57.

Llwyddodd perchnogion y tŷ i ddianc heb gael eu hanafu.

Yn y cyfamser, mae ymchwiliad ar y cyd ar y gweill rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Tân ac Achub i bwy achosodd y tân.

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â nhw ar 101, 0845 607 1001 (llinell Cymraeg), neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.

Neu, mae’n bosibl anfon neges destun at 66767 neu e-bostio – northwalespolice@north-wales.police.uk.