Mae degau o filoedd o brotestwyr wedi bod yn gorymdeithio drwy ganol prifddinas Gwlad Thai er mwyn ceisio disodli llywodraeth y wlad.
Teithiodd y protestwyr, oedd wedi’u gwisgo mewn coch, o sw Bangkok i’r temlau Bwdhaidd sy’n cael eu defnyddio gan filwyr fel gwersylloedd dros dro.
Dywedodd yr heddlu bod tua 60,000 o bobol yn rhan o’r brotest.
Mae’r Prif Weinidog Abhisit Vejjajiva wedi galw miloedd i filwyr i’r brifddinas i warchod senedd y wlad ac adeiladau’r llywodraeth rhag ofn i’r protestiadau droi’n drisgar.
Mae’r protestwyr o blaid democratiaeth wedi bod yn gorymdeithio ar strydoedd y brifddinas ers tair wythnos.
Maen nhw’n cyhuddo’r Prif Weinidog o gipio pŵer gyda chymorth y fyddin ac yn mynnu ei fod o’n diddymu’r senedd a galw etholiad cyffredinol.
Mae Abhisit Vejjajiva wedi bod yn gweithio a byw mewn gwersyll milwrol ers i’r protestio ddechrau ar 12 Mawrth.
“Fe wnawn ni orchfygu’r plastai ble mae’r milwyr yn cuddio. Fe wnawn ni ysgwyd y ffensys a thorri’r gwifrau pigog. R’yn ni’n gorymdeithio o blaid democratiaeth!” meddai arweinydd y brotest, Nattawut Saikua, wrth y dyrfa.
“Dyma ble fydden ni’n dod a’r gormes milwrol i ben. Dyma ble fydden ni’n creu democratiaeth!”
Mae’r protestwyr yn cefnogi’r cyn Brîf Weinidog Thaksin Shinawatra, gafodd ei daflu allan yn 2006 gan coup milwrol.