Mae’r RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i ferlen wedi’i anafu’n ddrwg.
Daethon nhw o hyd i’r merlyn mewn “cyflwr gwael” yn ardal Treffynnon ar 17 Mawrth.
Roedd y ferlen wedi torri asgwrn ei ên ac angen triniaeth meddai milfeddyg lleol. Yn y cyfamser, mae’r anifail yng ngofal y RSPCA.
“Os oes rhywun yn gwybod beth ddigwyddodd, ‘dw i’n eu hannog nhw i ddod ymlaen a helpu,” meddai Chris Dunbar o’r RSPCA.
Dod o hyd i gi
Mae’r RSPCA hefyd yn apelio am wybodaeth ar ôl dod o hyd i ddaeargi gwyn yn Nyffryn Conwy ar y ffordd rhwng Dolgarrog a Threfriw ar 18 Mawrth.
“Hoffwn ni glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y ci’n cael ei gadael brynhawn Dydd Mercher 17 Mawrth,” meddai Kevin Paton o’r RSPCA.
“Roedd crafangau’r ci’n tyfu mewn i’w chnawd a’i chot ffwr mewn cyflwr gwael.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r RSPCA ar 03001 234999.