Does dim golwg tua 50 o forwyr sydd dan ar goll ar ôl i long llynges De Korea suddo mewn moroedd garw yn dilyn ffrwydrad.
Roedd llynges ac awyrlu’r wlad yn dal i chwilio’r dyfroedd ger Ynys Baeknyeong De Korea ble suddodd y llong Cheonan 1,200 tunnell bore ‘ma.
Dywedodd y wlad bod achubwyr wedi dod o hyd i 58 morwr ond bod y 46 arall dal ar goll. Rhwygodd y ffrwydrad dwll yng nghefn y Cheonan neithiwr a cyn hir dechreuodd hi suddo.
“Roedd sŵn pobol yn sgrechian yn llenwi’r awyr,” meddai Kim Jin-ho, morwr ar long teithwyr i Ynys Baengnyeong. “Roedd morwyr ar fwrdd y llong yn gweiddi ‘Achubwch ni!’.”
Roedd y rhan fwyaf o’r llong dan y dŵr erbyn heddiw ond roedd rhan o gorff y llong dal yn weladwy. Cafodd rhai o’r morwyr oedd wedi eu hachub eu trin am esgyrn wedi torri a llosgiadau.
Mae Arlywydd y wlad Lee Myung-bak wedi gorchymyn y llynges i benderfynu’r gyflym beth achosodd y llong i suddo.
Does yna ddim prawf eto mai Gogledd Korea – sydd tua 10 milltir o Ynys Baeknyeong – oedd ar fai ond mae’r fyddin yn cadw llygad.