Mae arolwg barn wedi awgrymu bod gan bobol mwy o fydd yn y blaid Lafur i reoli’r economi na’r Torïaid, erbyn hyn.

Yn ôl yr arolwg a wnaethpwyd ar gyfer rhaglen The Daily Politics, dywedodd 33% o’r bobol a holwyd fod ganddyn nhw ffydd yn y Prif Weinidog Gordon Brown a’i Ganghellor Alistair Darling, i sefydlogi economi Prydain.

Roedd 27% yn cefnogi’r Torïaid, a 13% yn cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Y tro diwethaf i’r cwmni ComRes ofyn yr un cwestiwn mewn arolwg ym mis Rhagfyr, y Torïaid, David Cameron a George Osborne, oedd yn arwain 33% i 26% y blaid Lafur.

Holodd ComRes 1,003 o bleidleiswyr ar 24 a 25 Mawrth.

Y Gyllideb

Yn anffodus i’r Blaid Lafur doedd canlyniadau eraill yr un arolwg ddim yn dangos cefnogaeth gref i Gyllideb Alistair Darling yr wythnos yma.

Dywedodd 18% o’r bobol a holwyd y byddai’r Gyllideb yn “gwneud lles i Brydain”. Ond dywedodd 59% na fyddai’r Gyllideb yn gwneud unrhyw wahaniaeth, a dywedodd 12% y byddai’r Gyllideb yn gwneud pethau’n waeth i Brydain.

Yn ogystal, mae arolwg barn gan bapur newydd The Sun yn dweud fod y Torïaid bedwar pwynt o flaen Llafur yn yr arolygon barn ar hyn o bryd. Dim ond dau bwynt ar y blaen oedden nhw ddydd Iau.