Mae’r heddlu yn gofyn am lygaid dystion ar ôl i ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a thractor ar un o gyffyrdd yr M4.

Roedd y dyn 72, sy’n byw yn lleol, wedi ei gymryd i Ysbyty Treforys, Abertawe ar ôl y gwrthdrawiad. Fe fu farw yn ddiweddarach.

Digwyddodd y ddamwain rhwng Citroen C4 brown a thractor coch oedd yn tynnu trelar ar gylchfan cyffordd 47 ger Penllegaer am tua 11.40am dydd Gwener, 26 Mawrth.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod yr hewl yn brysur adeg y ddamwain a’u bod nhw’n awyddus i siarad gydag unrhyw un wnaeth weld beth ddigwyddodd neu stopio i roi cymorth.

Roedd y lon ar gau am tua dwy awr wrth i’r heddlu ymchwilio i’r ddamwain a symud y cerbydau.

Os oes gennych chi wybodaeth cysylltwch â 01792 456999.