Mae gweithwyr British Airways yn streicio heddiw am yr ail benwythnos yn olynol wrth i’r dadlau chwerw dros swyddi a thorri costau barhau.

Dywedodd undeb Unite bod 12,000 o’u haelodau yn cefnogi’r gweithredu diwydiannol.

Ymgasglodd cannoedd o’r streicwyr ar faes pêl-droed ger Heathrow cyn cael eu cymryd i sawl llinell biced o boptu’r maes awyr.

Mae BA yn honni eu bod nhw’n mynd i allu hedfan 75% o’r cwsmeriaid sydd wedi archebu tocyn yn ystod y pedwar diwrnod nesaf o streicio rhwng 27-30 Mawrth.

Dywedodd y cwmni bod tua 18% o’u teithwyr wedi ail hail-archebu er mwyn teithio gyda chwmnïau eraill, neu wedi newid eu dyddiau teithio er mwyn osgoi’r streic.

Mae Unite a BA yn dal i anghytuno ynglŷn â chost y streic, wrth i’r undeb honni y bydd o’n costio £100 miliwn, tra bod y cwmni yn dweud bod tua £49 miliwn yn agosach ati.

Dywedodd yr undeb bod BA wedi benthyg awyrennau gyda chriw llawn gan wyth cwmni arall, a’u bod nhw unwaith eto yn gofyn i wirfoddolwyr gymryd lle gweithwyr sydd ar streic.