Caeredin 24 – 20 Scarlets

Bu’n rhaid i’r Scarlets fodloni gyda phwynt bonws am golli yn yr Alban heno, gan roi ergyd sylweddol i’w gobeithion o chwarae yng Nghwpan Heineken y flwyddyn nesaf.

Bydd Nigel Davies a’i dîm yn hynod siomedig gyda’r canlyniad wrth iddynt ddod o fewn trwch blewyn i hawlio buddugoliaeth nodweddiadol yn erbyn yr Albanwyr, sy’n cystadlu tua brig y gynghrair.

Er i’r Scarlets ddechrau’n dda, a sgorio’r pwyntiau cyntaf gyda chic gosb gan Rhys Priestland, erbyn yr hanner awr roedd Caeredin yn rheoli’r gêm. Roedd Phil Godman eisoes wedi cicio dwy gic gosb erbyn i wythwr yr Albanwyr, Roddy Grant, groesi am gais cyntaf y gêm wedi 27 munud.

Ond, yn hytrach na digalonni, brwydrodd y Scarlets yn ôl a llwyddodd y prop, Phil John, i groesi am gais yn dilyn symudiad da rhwng Andy Fenby, Priestland a David Lyons, i sicrhau eu bod ond ar ei hôl hi o 13-10 ar yr hanner.

Cafodd y Cymry ergyd fuan yr ail hanner, wrth i’r asgellwr, Tim Visser sgorio cais bron yn syth o’r ail-ddechrau. Ciciodd Priestland a Godman gic gosb yr un, ac roedd yn ymddangos fel bod gôl adlam Godman wedi 60 munud yn mynd i selio’r fuddugoliaeth. Er hynny, yn ôl daeth y Scarlets – Andy Fenby yn croesi, a Dan Newton yn trosi i ddod a’r sgôr yn ôl i 24-20, ond yn ofer yn y diwedd.

Scarlets: Evans, L. Williams (Maule 66), King, J. Davies, Fenby, Priestland (Newton 53), Roberts (Knoyle 60), John, Owens (Rees 37), R. Thomas (Manu 54), Welch, Day (Reed 54), Turnbull, Pugh (McCusker 60), Lyons.

Llun: Y siom yn amlwg ar wyneb blaenasgellwr y Scarlets, Rob McCusker. (Gwifren PA)