Gleision 19 – 9 Ulster

Rhoddwyd hwb enfawr i obeithion y Gleision o chwarae yng nghwpan Heineken y flwyddyn nesaf, wrth iddyn nhw drechu Ulster yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

Mae tîm Dai Young mewn brwydr gyda dau o ranbarthau eraill Cymru, Y Scarlets a’r Dreigiau, yng ngwaelodion Cynghrair Magners, gyda dim ond dau o’r tri i chwarae ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.

Mae’r fuddugoliaeth yn erbyn y gwŷr o Ogledd Iwerddon yn hwb enfawr i obeithion y Gleision, yn arbennig wrth i’r Scarlets golli oddi-cartref yng Nghaeredin heno.

Fawr o wledd

Er bod chwaraewyr rhyngwladol y Gleision yn ôl yn y tîm heno, doedd y gêm yn fawr o wledd i’r cefnogwyr, ond bydd y canlyniad yn llawer pwysicach na’r perfformiad i’w hyfforddwr, Dai Young.

Yn wir, diffyg disgyblaeth y Gwyddelod oedd y prif ffactor yn y pendraw, wrth i unig gais y gêm ddod pan oedd dau ohonynt yn y gell gosb. Roedd Ryan Caldwell a Darren Cave ill dau wedi gweld y garden felen, ac yn derbyn eu cosb pan groesodd yr eilydd Ma’ama Molitika ar ôl llinell i’r Gleision.

Daeth gweddill pwyntiau gêm ddigon diflas o draed y ddau giciwr, Ben Blair i’r Gleision a Niall O’Connor i Ulster.

Gleision: Blair, Halfpenny, Laulala, Shanklin (Hewitt 31), T. James, Sweeney, Rees, Jenkins, Thomas, Filise, Morgan (Pretorius 56), Tito, A. Powell (Militika 60), M. Williams, Rush.
Eilyddion na ddefnyddiwyd: Flanagan, Cooper, R. Williams, Andrews.