Mae gwraig o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei charcharu am 18 mis ar ôl ei chael yn euog o weithgarwch rhywiol â efo bachgen 13 oed.
Yn ôl y BBC, dywedodd y Barnwr Keith Thomas fod Kerry Lee, 25, yn bwriadu cael rhyw efo’r bachgen petai’r berthynas heb gael ei darganfod.
Roedd Kerry Lee, sy’n fam i bedwar o blant, wedi gwadu pedwar cyhuddiad yn ei herbyn, gan honni fod y bachgen yn ei ffansio hi.
Ond roedd y llys wedi clywed ei bod hi wedi bod yn anfon negeseuon testun i’r bachgen, a’i bod wedi ei wahodd i’w chartref yn oriau man y bore.
Clywodd y llys hefyd ei bod hi wedi gweithredu’n rhywiol efo’r bachgen.
Roedd y bachgen wedi dweud dros gysylltiad fideo yn y llys fod Kerry Lee wedi dweud ei bod hi am gael rhyw â fe.
Daeth perthynas y ddau i ben pan cysylltoddmam y bachgen efo’r heddlu.
Bydd enw Kerry Lee hefyd yn cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw.