Mae cwmni teuluol o Rhydaman wedi ennill cytundeb dwy flynedd i gyflenwi hufen ia i holl ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu y bydd Frank’s Ice Cream, sy’n cael ei reoli gan y brodyr Giulio a Renaldo Dallavalle, yn cynhyrchu dros filiwn o dybiau o hufan ia ar gyfer cleifion bob blwyddyn.

Yn ôl Giulio Dallavalle, fe wnethon nhw ddatblygu rysáit arbennig efo deunydd penodol er mwyn cwrdd ag anghenion maeth a dietegol y Gwasanaeth Iechyd.

Cyflenwadau Iechyd Cymru, sef adran o fewn y Gwasanaeth Iechyd, oedd yn penderfynu pwy fyddai’n derbyn y cytundeb.


Cynnyrch lleol

Yn ystod ymweliad â’r cwmni yng Nghapel Hendre, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig y Cynulliad, Elin Jones, ei bod hi’n galonogol gweld fod y Gwasanaeth Iechyd wedi dewis cynhyrchwyr lleol.

Mae Frank’s Ice Cream eisoes yn cyflenwi hufen ia i archfarchnadoedd Tesco, Morrisons, Asda, Waitrose a Holland & Barrett.