Mae Undeb Ffermwyr Cymru wedi cyhuddo Gwasanaeth Cyllid a Thollau Llywodraeth Prydain o fod yn “llawdrwm” efo ffermwyr sydd ddim yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Daw’r cwyno ar ôl cyflwyno rheolau newydd sy’n golygu y bydd yn rhaid i ffermwyr ddychwelyd eu ffurflenni treth ar werth dros y we o 1 Ebrill ymlaen.
Yn ôl cyfarwyddwr busnes yr undeb, Emyr James, dyw’r Gwasanaeth Cyllid a Thollau ddim wedi rhoi dewis arall i ffermwyr sydd ddim yn defnyddio’r rhyngrwyd, sydd â chysylltiad band-llydan gwael, neu sydd â dim cysylltiad i’r rhyngrwyd o gwbl.
Yn ôl Emyr James, ateb y Gwasanaeth Cyllid a Thollau yw y gallai ffermwyr ofyn i deulu a chyfeillion sydd â chyfrifiadur, i’w cynorthwyo.
Roedden nhw hefyd wedi awgrymu y dylai ffermwyr dalu asiant i wneud y gwaith ar eu rhan.
Nodweddiadol
“Mae yna genhedlaeth o bobol mewn cymdeithas yn dal i fod na wnaeth dyfu fyny mewn amgylchfyd y Rhyngrwyd,” meddai Emyr James.
“Dylen nhw fod wedi dangos ychydig o ystyriaeth tuag at y grŵp yma o bobol.”
Dywedodd hefyd fod yr agwedd hon gan y Llywodraeth yn dangos ychydig iawn o werthfawrogiad o “wir sefyllfa” llawer o fusnesau maint bach a chanolig.
Mae’n honni fod hyn yn agwedd “nodweddiadol o lawdrwm” gan y Llywodraeth.
Yn ôl Undeb Ffermwyr Cymru, fe fyddan nhw’n cynnig gwasanaeth yn eu swyddfeydd sirol, lle bydd eu gweithwyr yn trosglwyddo taflenni treth ar werth ffermwyr dros y we.