Er gwaethaf perfformiad siomedig tîm Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, roedd yna ambell berfformiad unigol i’w canmol dros y ddeufis diwethaf.

Trwy gydol yr wythnos hon, mae darllenwyr Golwg360 wedi bod yn pleidleisio dros y chwaraewr y maen nhw’n credu sydd wedi rhoi o’i orau a serennu dros y gyfres o bump gêm.

Mae’n fraint felly cyhoeddi mai maswr Cymru, Stephen Jones, sy’n hawlio teitl ‘Seren y Chwe Gwlad 2010 Golwg360’.

Mae’n siŵr taw’r bytholwyrdd, Jones, a’r asgellwr bach Shane Williams oedd y ddau ffefryn wrth agor y bleidlais. Jones aeth â hi’n weddol gyfforddus gyda 45% o’r bleidlais, tra fod Williams yn ail gyda 28%.

Roedd rhai sylwebwyr amlwg wedi canmol cyfraniad James Hook i’r ymgyrch eleni yn ei safle newydd fel canolwr. Hook oedd yn drydydd gyda 14% o’r bleidlais tra fod yr ail reng ifanc, Bradley Davies yn bedwerydd agos gyda 10% o’ch pleidlais.