Ers pedair blynedd, dw i wedi bod yn cadw llygad barcud ar Donald J Trump. Mae’n bosib i mi fod ychydig yn obsesiynol. Fe wnes i astudio Gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn y Brifysgol ac o’r herwydd rydw i wedi rhyfeddu sut roedd y personoliaeth deledu dros ben llestri, digywilydd, wedi llwyddo i droi’r system wleidyddol ar ei phen.

Lluchiwyd y ‘norm’ i’r bin sbwriel. Aeth ati gyda brwdfrydedd diflino i wyrdroi polisïau Obama.