Mae ymosodwr Abertawe, Shefki Kuqi wedi dweud ei fod o’n benderfynol o sgorio yn erbyn ei gyn glwb Ipswich yfory.
Mae’r chwaraewr o’r Ffindir wedi treulio tri chyfnod gwahanol gyda chlwb Portman Road yn ystod ei yrfa gan sgorio 32 gôl mewn 92 ymddangosiad.
Ond pe bai’n Shefki Kuqi yn sgorio yn erbyn Ipswich, dywed na fyddai’n dathlu.
“Mae gen i job i’w gwneud ddydd Sadwrn, a phe bawn i’n cael y cyfle fe wna i geisio sgorio cymaint o goliau ag y galla’i,” meddai Kuqi.
“Ond rwy’n credu y byddwn i’n dathlu’n dawel – mae Ipswich yn golygu llawer i mi.
“Mae’n glwb rwy’n ei adnabod yn dda. Maen nhw wedi newid rhai o’r chwaraewyr ers i mi fod yna, ond roeddwn i’n mwynhau chwarae yno.”
Mae gan Abertawe saith gêm yn weddill i’w chwarae yn y Bencampwriaeth ac mae Kuqi yn credu bod pob tîm yn y gynghrair yn mynd i fod yn brwydro’n galed am bob pwynt fydd ar gael.
“R’yn ni’n dod at ddiwedd y tymor, mae angen y pwyntiau ar bawb am wahanol resymau, ac mae hyn yn mynd i fod yn wir ym mhob gêm,” meddai’r ymosodwr.
“Mae’n rhaid i ni godi’r ysbryd ar ôl nos Fawrth a sicrhau’r canlyniad da dros y penwythnos.”