Mae merched yn fwy tebyg gwyno am eu hiechyd na dynion, ond dyw hyn ddim yn golygu ei bod nhw’n fwy tebygol o farw na dynion, meddai ymchwil a gafodd ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau heddiw.

Mae’r erthygl a gafodd ei chyhoeddi heddiw’n edrych ar y cysylltiad sy’n bodoli rhwng pa mor iach y mae pobl yn credu ydyn nhw a pa mor debygol ydyn nhw o farw.

Yn ôl y dystiolaeth, mae merched ar draws Brydain yn fwy tebygol na dynion o ddweud bod eu hiechyd “ddim yn dda” neu’n “eithaf da.” Er hyn, roedden nhw’n llai tebygol na dynion o farw yn y cyfnod ar ôl hynny.

Alban

O’r gwledydd yn yr ymchwiliad, roedd y cysylltiad gydag iechyd gwael a marwolaeth yn gryfach yn yr Alban nac yng ngogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru.

Roedden nhw’n fwy tebygol o farw ar ôl dweud bod eu hiechyd yn wael meddai’r ymchwil.