Mae BBC Cymru yn rhoi gormod o sylw i rygbi ar draul pêl-droed.
Dyna farn Is-Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n amddiffyn y penderfyniad i roi’r hawliau am ddangos gemau’r tîm rhyngwladol yn nwylo sianel deledu lloeren Sky.
Yn ôl Trefor Lloyd Hughes mae’r BBC yn euog o ffafrio dynion rygbi wrth benodi pennaeth yr adran chwaraeon.
Pwy yw’r cyn-bennaethiaid?
“Gofynnwch i chi’ch hun pwy sydd wedi bod yn benaethiaid chwaraeon y BBC yng Nghymru,” meddai Trefor Lloyd Hughes.
“O ble daeth Gareth Davies, Arthur Emyr a Nigel Walker deudwch? O rygbi wrth gwrs! Pam nad ydi Ian Gwyn Hughes wedi bod yn bennaeth chwaraeon BBC Cymru?”
Yn ôl Trefor Lloyd Hughes, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi gorfod cefnu ar BBC Cymru am nad ydi hi’n fodlon talu pris y farchnad i ddangos gemau’r tîm rhyngwladol.
“Maen nhw wedi ein beirniadu ni am fynd at Sky,” meddai Trefor Lloyd Hughes.
“Wel, mae un ateb syml. Rhowch chi’r un arian i ni ac y mae Sky yn roi ac fe ddown yn ôl atoch chi!”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Mawrth 25