Mae’r gwr a fu farw mewn damwain car ger Castell-nedd, wedi ei enwi.
Roedd Lee Lewis, 36 oed, yn dod o Ystradgynlais.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i bentre’ Coelbren ger Castell-nedd ychydig cyn saith nos Wener, ond roedd Lee Lewis wedi marw cyn iddyn nhw gyrraedd.
Mae dynes a gafodd ei hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad, yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys.