Mae Cymdeithas Bêl-droed Croatia wedi cadarnhau lleoliad eu gêm gyfeillgar yn erbyn Cymru ym mis Mai.
Fe fydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Gradski Vrt yn ninas Osijek ddydd Sul, 23 Mai. Dyw amser y gêm ddim wedi’i gadarnhau eto.
Lle mae Osijek?
Mae Osijek yn agos i’r ffin gyda Serbia, tua 180 milltir o’r brifddinas Zagreb.
Mae yna faes awyr rhanbarthol yn y ddinas, ond mae’r gwasanaeth yn gyfyngedig.
Croatia… ond dim Llydaw
Y gêm gyfeillgar yn erbyn Croatia fydd yr unig un y bydd Cymru’n ei chwarae fis Mai, ar ôl i gynlluniau i chwarae’n erbyn Llydaw yn Nantes fethu â dwyn ffrwyth.
Fe fydd tîm John Toshack yn cael gwybod trefn gemau rhagbrofol pencampwriaeth Ewro 2012 ddydd Iau yr wythnos hon, pan fydd UEFA yn trefnu ac yn cyhoeddi’r amserlen yn Tel Aviv.
Fe ddaw hyn wedi i Gymru, Lloegr, Bwlgaria, Swistir a Montenegro fethu â dod i gytundeb dros ddyddiadau’r gemau rhagbrofol yn gynharach y mis hwn.