Mae’r Heddlu a’r Gwasanaeth Erlyn wedi dweud heddiw fod angen gwneud mwy i helpu pobol anabl sy’n diodde’ troseddau cas.

Mae Joanna Perry o Wasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud heddiw fod yn rhaid i’r gwasanaeth erlyn sicrhau mwy o achosion llwyddiannus.

Hefyd, mae uwch swyddog heddlu wedi dweud fod angen i asiantaethau weithio gyda’i gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Fe ddaw eu sylwadau’n dilyn achos Fiona Pilkington, a laddodd ei hun a’i merch anabl ar ôl diodde’ blynyddoedd o gam-drin gan griw o bobol ifanc yn Barwell, Swydd Gaerlŷr.

‘Dim digon’

“Rydan ni’n gwybod fod pobol anabl yn credu nad oes digon yn cael ei wneud yn y maes hwn,” meddai Joanna Perry o uned cydraddoldeb ac amrywiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth y BBC.

Fe ychwanegodd Prif Gwnstabl Steve Otter, o Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu:

“Does dim amheuaeth y gallwn wneud mwy. Mae’n heriol iawn – ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein swyddogion yn derbyn hyfforddiant priodol er mwyn gallu adnabod anableddau a materion iechyd meddwl.

Hefyd, fe ddywedodd y Prif Gwnstabl fod yn rhaid gallu sicrhau “gweithio’n galed iawn i atal y pethau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.”

Y cefndir

Fe wnaeth Fiona Pilkington, ei merch 18 mlwydd oed Francecca a’i mab Anthony oedd yn dioddef o ddyslecsia difrifol, ddioddef dros 10 mlynedd o gam-drin gan griw o bobol ifanc lleol.

Fe gafodd yr Heddlu a’r Cyngor lleol eu beirniadu’n drwm am beidio â delio â chwynion y teulu mewn modd priodol.

Hefyd, yn gynharach y mis hwn fe wnaeth dyn ag anawsterau dysgu ym Manceinion ddisgyn yn farw yn y fan a’r lle, yn dilyn adroddiadau ei fod yn cael ei gam-drin gan bobol ifanc.