Mae cynllun £1.8m i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ac addysg wedi cael ei basio.

Fe fydd prosiect Partneriaeth Dysgu Ranbarthol yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a’r bwriad ydi dod â sefydliadau at ei gilydd i wella sgiliau, dysgu ac adfywio yn siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.

“Mae prosiect yn gyfle unigryw i arwain trawsnewidiad dysgu ar draws y rhanbarth,” meddai Gweinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad, Leighton Andrews. Mae am weld sefydliadau addysg o bob lefel yn gweithio gyda’i gilydd.

“Trwy ddatblygu gwell ffyrdd o ddarparu gwasanaethau i ddysgwyr a chyflogwyr trwy gydweithrediad, fe fyddwn yn annog gwell cynhyrchiant a thyfiant economaidd,” meddai.

Mwy o gyfle

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Ali Thomas, wedi croesawu’r arian, gan ddweud y bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd addysg a hyfforddi i fyfyrwyr yn ne orllewin Cymru.

“Mae’r prosiect yn allweddol i’n helpu ni i adfer y sefyllfa economaidd bresennol,” meddai.