Parhau y mae’r frwydr bropaganda rhwng BA ac undeb Unite wrth i’r streic hedfan gynta’ gyrraedd hanner ffordd.
Tra bod BA’n honni eu bod wedi gallu ychwanegu teithiau heddiw, oherwydd gweithwyr sy’n gwrthod streicio, mae’r undeb yn mynnu mai dim ond llond llaw sydd wedi torri’r streic.
Mae Unite hefyd wedi cyhoeddi dogfen yn disgrifio sut y mae rheolwyr y cwmni awyrennau wedi bod y pigo ar staff caban cyn yr anghydfod.
Tra bod Unite yn disgrifio tawelwch Terminal 5 yn Heathrow – canolfan BA yn y maes awyr – roedd y cwmni’n hawlio eu bod yn symud 50,000 o deithwyr eto heddiw.
Fe ddechreuodd y streic dridiau fore ddoe ac fe fydd yn parhau eto fory. Os na fydd cytundeb, fe fydd streic bedwar diwrnod yn digwydd dros y Sul nesa’.
‘Prydain nid Burma’’
Fe gyhoeddodd cyd ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Tony Woodley, lythyr at y gweithwyr yn eu hannog i aros yn gadarn.
Fe ddywedodd y dylai Prif Weithredwr BA, Willie Walsh, gofio mai ym Mhrydain yr oedd nid “ym Murma”.
Fe wadodd honiad BA bod cynnig derbyniol ar gael i’r gweithwyr, gan ddweud y byddai’r ddwy ochr wedi gallu cytuno pe bai’r cwmni wedi dal ati i drafod.
Llun: Willie Walsh