Mae’r awdurdodau yng Ngwlad yr Iâ’n dal i gadw llygad ar losgfynydd sydd wedi ffrwydro yn ne’r ynys.

Fe gafodd 450 o bobol eu symud ar ôl y ffrwydrad ar rewlif tua 100 miltir o’r brifddinas Reyjkavik.

Roedd yna bryderon bod y ffrwydrad wedi digwydd o dan y rhewlif ac y byddai hynny wedi creu perygl mawr o lifogydd.

Fel y mae, does neb wedi eu brifo hyd yn hyn ond mae’r digwyddiad wedi cael effaith ar deithiau awyrennau yn yr ardal.

Mae awdurdodau’r wlad wedi gwahardd hedfan tros ardal eang ger y llosgfynydd – does dim teithiau mewnol yn digwydd ac fe fu’n rhaid canslo tair taith o’r Unol Daleithiau.

Mae’r lafa’n berwi allan trwy hafn hanner milltir o hyd ac mae stad argyfwng wedi ei chyhoeddi yn y cyffiniau.

Mae’r llosgfynydd – Eyjafjallajockull – wedi bod yn dawel ers bron i 200 mlynedd.